Rhagfyr 17, 2020
Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach […]
Darllen MwyHydref 20, 2020
Llyfrgelloedd yn Cefnogi eu Cymunedau mewn Amserau Heriol
Roedd llyfrgelloedd ymhlith y cyntaf i ddechrau darparu gwasanaeth i’w cymunedau yn dilyn addasiad i’r rheoliadau gan alluogi awdurdodau lleol i ddechrau’r broses o gynllunio sut i ailagor eu llyfrgelloedd yn ddiogel ym mis Mai. Dechreuodd y dull gweithredu fesul cam drwy gynnig gwasanaeth benthyciadau ‘clicio a chasglu’. Er mwyn cefnogi’r costau ychwanegol a gronnwyd […]
Darllen MwyHydref 13, 2020
Troi Dalen Newydd i Gefnogi Iechyd Meddwl Plant
Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth […]
Darllen MwyHydref 8, 2020
#DymaFySilff – Wythnos Llyfrgelloedd yn Dathlu Llyfrau a Darllen
Bydd Wythnos Llyfrgelloedd 2020 yn cael ei chynnal rhwng 5-10 Hydref, ac yn dathlu llyfrgelloedd poblogaidd y genedl a’u rôl hanfodol yn niwylliant llyfrau y DU. Bydd yn siawns i lyfrgelloedd ymhob sector gael dathlu llyfrau a darllen, ac i arddangos eu cynnig darllen a’u cyfraniad i ddatblygu Cenedl o Ddarllenwyr. Dywedodd Eloise Williams, Children’s Laureate […]
Darllen MwyHydref 5, 2020
Adnoddau Iechyd a Lles yn Cefnogi Defnyddwyr
Dros y chwe wythnos diwethaf, mae Llyfrgelloedd Cymru ar y cyd â Borrowbox, y cyflenwr e-lyfrau ac e-lyfrau llafar Cymru-gyfan, wedi cyflwyno cyfoeth o awgrymiadau darllen Iechyd a Lles ichi, sydd ar gael drwy wasanaeth Borrowbox eich llyfrgell. Darparwyd yr adnoddau hyn diolch i nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi defnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus […]
Darllen MwyGorffennaf 17, 2020
Dewch i gwrdd â’r Sgwad Gwirion! Sialens Ddarllen yr Haf 2020 yn lansio yng Nghymru
Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Nod y Sialens flynyddol yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf. Eleni mae’r Sialens yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, â chefnogaeth gwasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd, […]
Darllen MwyMehefin 17, 2020
Pythefnos Hi VIS 2020 yn Dathlu’r Gair ar bob Ffurf a Fformat
Ma’ pythefnos Hi Vis (‘Make A Noise In Libraries’ gynt) yn rhedeg o’r 1af-14eg o Fehefin! Ei nod fydd hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau Llyfrgell sydd ar gael i bobl â nam ar eu golwg. Mae’n cael ei gefnogi gan RNIB a Reading Sight CILIP. Mae darparu fformatau amgen a sicrhau eu […]
Darllen MwyMwy o Lyfrau Iechyd Meddwl ar gael yn y Gymraeg
Mae hunangofiant yr awdur arobryn Matt Haig am ei brofiad o iselder wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg fel rhan o gynllun arloesol Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Mae Reasons to Stay Alive gan Matt Haig, sydd i’w weld yn gyson ar restrau’r gwerthwyr gorau, ymhlith y cyfrolau hunangymorth diweddaraf i’w […]
Darllen MwyEbrill 6, 2020
Mynediad i’r Llyfrgell Unrhyw Amser, Unrhyw Le
Darganfyddwch holl adnoddau digidol eich llyfrgell – yn cynnwys eLyfrau, eLyfrau Llafar, eGyfnodolion ac eGomics, a llu o Gasgliadau Digidol. Mae casgliad ffantastig o adnoddau ar lein ar gael drwy eich llyfrgell – dros 250 o brif deitlau eGylchgronau, 25,000 o eLyfrau ac eLyfrau Llafar, eGomics – y cyfan am ddim, yn syml iawn trwy […]
Darllen Mwy