Plant a Theuluoedd
Mae’r adran hon yn rhoi braslun ichi o’r cyfoeth o gyfleoedd dysgu a mentrau atyniadol a gynigir gan lyfrgelloedd ar draws Cymru er mwyn cefnogi plant a theuluoedd.
Mae llyfrgelloedd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i bob plentyn – i gael hwyl, i ddysgu, i ddarganfod a rhannu, gan gynnwys sesiynau adrodd stori i blant ifanc iawn a chlybiau codio i blant hyn. Mae gan y gweithgareddau hyn ran hanfodol i’w chwarae mewn datblygu darllen, dysgu a chyfranogi i gymdeithas sydd fwyfwy yn gwerthfawrogi gwybodaeth, llythrennedd a’r gallu i ddod o hyd ac i ddefnyddio gwybodaeth.
Mae’n rhwydd i ymuno a’ch llyfrgell leol yng Nghymru, cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Sialens Ddarllen
Sialens Ddarllen yr Haf
Trefnir Sialens Ddarllen yr Haf gan y Reading Agency, ac fe’i cymeradwyir yng Nghymru gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru, gan gyrraedd plant a phobl ifainc o bob oedran a gyda dros 40,000 o blant yn cymryd rhan llynedd yng Nghymru.
Sialens Ddarllen yr HafDarllen yn Well
Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn yng Nghymru i Blant
Mae Darllen yn Well yn eich cefnogi chi er mwyn deal a rheoli eich iechyd a lles drwy ddefnyddio darllen sy’n gymorth.
Llyfrau Darllen yn WellChildren’s Laureate Wales & Bardd Plant Cymru
Children’s Laureate Wales & Bardd Plant Cymru
Dyma gyflwyniad i Bardd Plant Cymru a Children's Laureate Wales.
Mwy o WybodaethBookstart Cymru
Bookstart Cymru
Gallwch feithrin datblygiad plant drwy’r rhaglenni cymorth i ddysgu cynnar hyn sydd ar gael yng Nghymru.
Dysgu CynnarDarllen
Cefnogi Darllen Plant
Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd darllen i blant. Gall darllen er mwyn pleser fod o fudd i addysg, datblygiad cymdeithasol a meddyliol, a lles ac iechyd meddyliol plentyn.
Mwy o wybodaethAmser Stori a Rhigwm
Amser Stori a Rhigwm
Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn rhedeg sesiynau Amser Stori ac Amser Rhigwm rhad ac am ddim ar gyfer babanod a phlant.
Amser Stori a RhigwmAdnoddau Digidol
Adnoddau Digidol ar Gyfer Plant
Mae ein casgliad anhygoel o adnoddau arlein yn cynnwys eLyfrau, eLyfrau Sain, eGomics ac eGylchgronau i blant a phobl ifainc, y gellid eu lawrlwytho am ddim.
Adnoddau DigidolYsgolion ac Athrawon
Ysgolion ac Athrawon
Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y cynlluniau a'r gweithgareddau a gynigir gan lyfrgelloedd sydd o fudd i ysgolion ac athrawon, gan gynnwys ymweliadau â llyfrgelloedd, Sialens Ddarllen yr Haf, a mynediad at gyfoeth o adnoddau digidol.
Ysgolion ac Athrawon