Hydref 5, 2023

Megan Angharad Hunter

  Mae Megan yn dod o Ddyffryn Nantlle ac astudiodd Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Ifanc Llenyddiaeth Cymru. Yn 2021, hi oedd prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel tu ol i’r awyr […]

Darllen Mwy

Medi 6, 2023

Simon Chandler

  Mae dysgu Cymraeg yn rhugl yn dipyn o gamp, ond mae Simon Chandler, sy’n enedigol o Lundain, wedi mynd sawl cam ymhellach. Yn ogystal â meistroli’r gynghanedd, mae wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf, sy’n rhannol seiliedig ar hanes chwarelyddol ardal Blaenau Ffestiniog.    Mae’r nofel Llygad Dieithryn yn cael ei hadrodd o safbwynt Katja, […]

Darllen Mwy

Awst 1, 2023

Alun Davies

  Daw Alun Davies o Aberystwyth yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n beiriannydd meddalwedd ac yn rhedeg ei gwmni ymgynghori ei hun. Mae’n hoffi rhedeg a beicio ac wedi cyflawni sawl triathlon. Enillodd ei nofel antur ffantasïol i blant a phobol ifanc Manawydan Jones: Y Pair Dadeni wobr Uwchradd Tir Na […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 3, 2023

Llŷr Titus

Un o Fryn Mawr ger Sarn ym Mhen Llŷn ydi Llŷr Titus. Mae’n awdur a dramodydd ac yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymunedol y Tebot. Mae’n hefyd un o sylfaenwyr cylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp, a bu’n un o olygyddion y cylchgrawn a rhai cyhoeddiadau. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf Pridd gan wasg […]

Darllen Mwy

Mehefin 5, 2023

Sioned Wiliam

  Magwyd Sioned Wiliam yn y Barri ac mae hi bellach yn byw yn Llundain. Mae’n enw cyfarwydd ym myd teledu yn y Deyrnas Unedig – dechreuodd gyda’r BBC yn Llundain yn yr adran radio adloniant ysgafn cyn gweithio fel cynhyrchydd annibynnol. Bu’n gomisiynydd comedi i ITV ac i BBC Radio 4. Mae’n adolygu theatr […]

Darllen Mwy

Mai 10, 2023

Luned Aaron

  Daw Luned Aaron o Fangor yn wreiddiol. Mae’n darlunio ac yn ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion, ac yn arddangos ei gwaith yn aml mewn orielau ar hyd a lled Cymru. Fe enillodd ei llyfr cyntaf i blant, ABC Byd Natur, wobr categori cynradd Tir na n-Og 2017. Bellach mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u […]

Darllen Mwy

Ebrill 3, 2023

Mared Lewis

  Magwyd yr awdur Mared Lewis ym mhentref glan y mor Malltraeth ar Dde Orllewin Ynys Mon. Aeth i Ysgol Gynradd Bodorgan, a mwynhau blynyddoedd hapus iawn yno, ac yna ymlaen i Ysgol Gyfun Llangefni, ysgol braf arall. Cwblhadd gradd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i ddysgu Saesneg am bum mlynedd yn […]

Darllen Mwy

Mawrth 6, 2023

Angharad Tomos

  Mae Angharad Tomos yn awdur nifer helaeth o lyfrau i oedolion a phlant, wedi ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Mae ei gwreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Nantlle, ac mae’n wyres i’r Sosialydd David Thomas, sy’n gymeriad blaenllaw yn ei nofel diweddaraf, Arlwy’r Sêr. Cynnyrch y Cyfnod Clo […]

Darllen Mwy

Chwefror 6, 2023

Branwen Davies

  Mae Branwen Davies yn ferch o Ddyffryn Teifi ac mae hi’n gweithio ym myd y cyfryngau, ar raglenni radio a theledu ffeithiol yn bennaf. Mae ganddi ddau o blant, gormod o geffylau ac un ci, a’r rhain sy’n mynd â’i hamser rhydd, ei hegni a’i harian!    Mae ei nofel newydd Sblash!  i’r arddegwyr […]

Darllen Mwy
Cookie Settings