Hydref 5, 2022

Gareth Evans

Daw Gareth Evans o Benparcau, Aberystwyth, ond mae wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer bellach wedi degawd dramor yn Sbaen a’r Almaen. Cychwynnodd ei yrfa gyda Radio Cymru, cyn troi at ysgrifennu ar gyfer y teledu. Mae ganddo brofiad helaeth fel sgriptiwr a storïwr, yn bennaf ar gyfer Pobol y Cwm. Roedd ei nofel […]

Darllen Mwy

Medi 9, 2022

Wyn Mason

Mae Wyn Mason yn byw yng Nghaerdydd, ond daw yn wreiddiol o Lanfarian, ger Aberystwyth. Tan yn ddiweddar roedd e’n uwch ddarlithydd drama ym Mhrifysgol De Cymru, ond erbyn hyn mae’n awdur llawn amser. Mae’n ysgrifennu dramâu llwyfan a radio yn bennaf, ac yn cyd-redeg y cwmni theatr Os Nad Nawr. Y nofel graffig Gwlad […]

Darllen Mwy

Awst 2, 2022

Geraint Evans

  Mae Geraint Evans yn byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion. Bu’n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac am gyfnod yn Warden ar Neuadd Breswyl Pantycelyn. Hergest yw ei nofel ddiweddaraf, wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Mae’n debyg nad yw’r nofel yn deillio o brofiad personol! Pan mae Dr Rodrigo Lewis o Batagonia yn cyrraedd […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 13, 2022

Rebecca Thomas

  Daw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhrifysgolion Caer-grawnt a Bangor, mae bellach yn ymchwilydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Dan Gysgod y Frenhines yw ei nofel gyntaf. Dywed Rebecca, “Braf iawn yw cael cyhoeddi […]

Darllen Mwy

Mehefin 6, 2022

Rhian Cadwaladr

  A hithau newydd ddathlu ei phenblwydd yn 60, mae Rhian Cadwaladr wedi cyhoeddi tair nofel: Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd a Plethu. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf i blant, Nain Nain Nain, yn 2019 ac ers hynny mae wedi bod yn cydweithio â’i merch ar gyfres o lyfrau Ynyr yr Ysbryd i […]

Darllen Mwy

Mai 11, 2022

Meleri Wyn James

Cafodd Meleri Wyn James ei magu yn Beulah ac Aber-porth. Fe raddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Aberystwyth ac astudiodd MA yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Mae’n mwynhau darllen, coginio, brodwaith a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Nofel ddirgelwch gyffrous i’r arddegau […]

Darllen Mwy

Ebrill 4, 2022

Haf Llewelyn

Mae Haf Llewelyn yn awdures nofelau i oedolion ac i blant, ac yn barddoni. Enillodd ei nofel Diffodd y Sêr wobr Tir na n-Og yn 2014. Mae’n byw yn Llanuwchllyn. Diolch i Haf am ateb ychydig o gwestiynau inni’n ddiweddar am ei llyfr newydd Ga i Fyw Adra? Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Ga […]

Darllen Mwy

Mawrth 1, 2022

Geraint Lewis

Mae Geraint Lewis yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Cyhoeddodd dair nofel, sef X, Daw Eto Haul a Haf o Hyd, i gyd i Wasg Carreg Gwalch a tair cyfrol o straeon byrion, Y Malwod (Annwn) a Brodyr a Chwiorydd (Y Lolfa) a Cofiwch Olchi Dwylo a Straeon Eraill (Gwasg Carreg Gwalch). Enillodd gystadleuaeth Stori Fer […]

Darllen Mwy

Chwefror 3, 2022

Jon Gower

Mae Jon Gower yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Enillodd gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Y Storïwr yn 2012. Daw o Lanelli yn wreiddiol ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd bellach, gyda’i wraig Sarah a’i ddwy ferch Elena ac Onwy. Cymru o Fri! yw ei gyfrol newydd sbon sy’n dathlu […]

Darllen Mwy
Cookie Settings