Mehefin 4, 2024
Aled Emyr
Magwyd Aled Emyr yn y Felinheli. Graddiodd mewn cerddoriaeth yn Llundain cyn dychwelyd i’r Felinheli i ddilyn ei freuddwyd i gael ysgrifennu. Trigo yw ei nofel gyntaf. “Mae teyrnasiad y Brenin Peredur dan fygythiad, ac mae’r tensiwn rhwng y Pedair Ynys ar fin ffrwydro. Daw arglwyddi’r ynysoedd draw i’r brifddinas ar Ynys Wen gyda […]
Darllen MwyMai 1, 2024
Siân Lewis
[Scroll down for English] Magwyd Siân yn Aberystwyth. Aeth i astudio Ffrangeg yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i ardal Aberystwyth. Bu’n gweithio am gyfnod fel llyfrgellydd, ac yna i adran gylchgronau’r Urdd cyn mentro fel awdures ar ei liwt ei hun. Mae wedi ysgrifennu dros 250 o lyfrau i blant a phobl ifanc, yn Gymraeg a […]
Darllen MwyEbrill 10, 2024
Ffion Emlyn
Yn wreiddiol o Feddgelert, treuliodd Ffion gyfnodau yn byw yng Nghaerdydd a Chaernarfon a theithio ychydig o’r byd cyn dychwelyd i bentref y ci enwog. Fe wnaeth fwynhau gyrfa ym myd y theatr cyn ymuno â’r BBC i weithio fel cynhyrchydd radio gyda chyfnodau fel cynhyrchydd stori a golygydd sgript ar wahanol raglenni’r BBC. […]
Darllen MwyMawrth 5, 2024
Llwyd Owen
Brodor o Gaerdydd yw Llwyd Owen, yn byw yn ardal Rhiwbeina gyda’i deulu. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007 a chyrhaeddodd ei nofela Iaith y Nefoedd (2019) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2020. Yn ogystal â’i nofelau niferus, mae gan Llwyd hefyd bodlediad poblogaidd o’r enw Ysbeidiau […]
Darllen MwyChwefror 1, 2024
Valériane Leblond
[scroll down for English] Cafodd Valériane Leblond ei magu yn Ffrainc, ond bellach mae’n byw yng Nghymru gyda’i phartner, pedwar mab, a chath. Mae hi’n paentio yn ei stiwdio gartref ac yn siarad Cymraeg rhugl yn ogystal â nifer o ieithoedd eraill. Mae ei gwaith celf yn aml yn ymdrin â’r syniad o berthyn […]
Darllen MwyIonawr 2, 2024
Elin Meek
[Scroll down for English] Mae Elin Meek yn byw yn Abertawe, lle cafodd ei geni, er iddi gael ei magu yng Nghaerfyrddin. Ar ôl mynychu Ysgol y Dderwen ac Ysgol Ramadeg y Merched, aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio Cymraeg ac Almaeneg. Treuliodd ddwy flynedd academiadd ym Mhrifysgol Freiburg. Hyfforddodd fel athrawes Ieithoedd […]
Darllen MwyRhagfyr 6, 2023
Delyth Jenkins
Mae Delyth Jenkins yn fam, yn nain, ac yn delynores. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r band gwerin o Abertawe Cromlech, ac yna aeth ymlaen i ffurfio’r triawd offerynnol arloesol Aberjaber. Mae hi’n chwarae mewn deuawd gyda’i merch Angharad Jenkins, a gyda’i gilydd maen nhw’n cael eu hadnabod fel DnA. Yn 2019, cyhoeddodd y llyfr That […]
Darllen MwyTachwedd 1, 2023
Daf James
Un o ddramodwyr, sgriptwyr, cyfansoddwyr a pherfformwyr amlycaf Cymru yw Daf James. Yn ogystal â phortreadu’r cymeriad cerddorol ‘Sue’, fe yw awdur y dramâu arloesol Llwyth a Tylwyth. Bydd ei gyfres ddrama Lost Boys and Fairies yn cael ei darlledu ar BBC1 yn 2024. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i ŵr a’u tri plentyn. Bydd ei nofel gyntaf […]
Darllen MwyHydref 5, 2023
Megan Angharad Hunter
Mae Megan yn dod o Ddyffryn Nantlle ac astudiodd Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Ifanc Llenyddiaeth Cymru. Yn 2021, hi oedd prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda’i nofel tu ol i’r awyr […]
Darllen Mwy