Rhagfyr 1, 2021

John Roberts

Magwyd John Roberts ar fferm Llawr-y-dref ger Llangïan ym Mhen Llŷn. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Mae’n gyflwynydd y rhaglen Bwrw Golwg ers deg mlynedd ar hugain. Bellach mae wedi gadael y BBC ac yn gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu annibynnol […]

Darllen Mwy

Tachwedd 1, 2021

Marlyn Samuel

Hogan o Sir Fôn ydi Marlyn, yn byw ym Mhentre Berw gyda Iwan ei gwr a Bruno y cocapw. Mae’n ymchwilydd i Radio Cymru a phan nad ydi hi’n sgwennu mae hi wrth ei bodd yn mynd â Bruno am dro, ym mwynhau pilates, a chwilio’r we am wyliau! Mae ei nofel diweddaraf, Pum Diwrnod […]

Darllen Mwy

Hydref 4, 2021

Bethan Gwanas

Magwyd  Bethan Gwanas, yr awdures boblogaidd, yn y Brithdir, ger Dolgellau. Graddiodd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gwneud amryfal swyddi yn cynnwys gweithio gyda’r VSO yn Nigeria, dod o hyd i ‘extras’ ar gyfer Rownd a Rownd, dysgu plant Cymru sut i ganŵio a dringo yng Nglan-llyn a chyflwyno rhaglenni garddio a theithio. Erbyn hyn, […]

Darllen Mwy

Medi 6, 2021

Geraint V. Jones

Mae’r awdur o Lan Ffestiniog, Geraint V. Joneas, wedi cyhoeddi pedair ar ddeg o nofelau Cymraeg ar gyfer oedolion, yn ogystal ag un Saesneg yn ystod ei yrfa hir a llewyrchus. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen dair gwaith gyda Yn y Gwaed (1990), Semtecs (1998) a Cur y Nos (2000). Cawsom yr anrhydedd arbennig yn […]

Darllen Mwy

Awst 2, 2021

Medi Jones-Jackson

Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, symudodd Medi i Aberystwyth fel myfyriwr, gan syrthio mewn cariad â’r ardal ac â bachgen o Gaernarfon! Yn gyn-swyddog hybu darllen i Gyngor Llyfrau Cymru cafodd Medi ei hysbrydoli i ysgrifennu Genod Gwych a Merched Medrus, ei llyfr cyntaf, gan y diffyg sylw i hanes merched o Gymru. Fe wnaeth […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 1, 2021

Ifan Morgan Jones

Ifan Morgan Jones yw arweinydd y cwrs Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Barn y Bobol 2020 am ei nofel Babel, Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 am ei nofel Igam Ogam, a chafodd ei nofelau eraill, Yr Argraff Gyntaf (2010) a Dadeni (2017), ganmoliaeth uchel. Bu’n […]

Darllen Mwy

Mehefin 7, 2021

Elidir Jones

Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a Cynefin. Ers 2004, mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw, ac erbyn hyn mae’n byw ym Mhontypridd gyda’i wraig a’i gi mewn tŷ llawn […]

Darllen Mwy

Mai 4, 2021

Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros yn awdures doreithiog, yn gantores, yn ddramodydd ac yn cyhoeddi colofn wythnosol yn Golwg. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2019 am ei nofel i’r arddegau sef Fi a Joe Allen, yn ogystal â Pluen yn 2017, Trwy’r Tonnau yn 2010, Prism yn 2012, a Pobl Drws Nesa yn 2020. Mae hefyd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn […]

Darllen Mwy

Ebrill 8, 2021

Sioned Wyn Roberts

Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu’n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda’r BBC. Dewiswyd Sioned fel un […]

Darllen Mwy
Cookie Settings