Newyddion

Chwefror 7, 2020

Gweddnewidiad Cyfoes i Lyfrgell ac Archif Sir Gaerfyrddin

Yn sgil buddsoddiad gwerth 2.6 miliwn mae gennym adeilad Archifau a Llyfrgell o’r radd flaenaf, sy’n rhoi lle blaenllaw i’r Gwasanaethau Diwylliannol yn Sir Gaerfyrddin. Wrth fynd i mewn i Lyfrgell Caerfyrddin, sydd bellach ar ei newydd wedd, caiff cwsmeriaid eu croesawu mewn cyntedd modern, golau ac agored. Yma ceir llyfrgell fywiog a chyfoes i […]

Darllen Mwy

Hydref 23, 2019

‘Cyd-Ddarllen Cymru! Trwy eich Llyfrgell Chi!’ yn Ysbrydoli Darllenwyr Newydd

A wnaethoch ymuno yn ein ymgyrch ‘Cyd-Ddarllen Cymru! Trwy eich Llyfrgell Chi!’? Beth oedd eich hoff deitlau? Yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd eleni, cafwyd 226 o ddarllenwyr newydd yn ymuno â’r ymgyrch ddarllen dros Gymru, gyda chyfanswm o 8,259 o fenthyciadau eLlyfr ac eLyfr Llafar! Ein teitlau ymgyrch arbennig ar gael yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd oedd: […]

Darllen Mwy

Awst 9, 2019

Llyfrau, yn Aml, yw’r Moddion Gorau: Darllen yn Well ar Bresgriptiwn yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Asiantaeth Ddarllen i ddarparu Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru. Mae’r cynllun Darllen yn Well yn cefnogi unigolion i ddeall a rheoli eu hiechyd drwy gyfrwng llyfrau pwrpasol. Bydd swyddogion proffesiynol y maes iechyd yn gallu argymell llyfr i unrhyw un sydd angen mwy […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 16, 2019

Plant Cymru yn Mentro i’r Gofod wrth i Sialens Ddarllen yr Haf Gychwyn

Paratowch i ddathlu ugeinfed pen-blwydd Sialens Ddarllen yr Haf a mynd ar Ras Ofod. Cafodd y sialens ei lansio gan yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Llyfrgell y Drenewydd ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019, yng nghwmni’r awdur a’r darlunydd poblogaidd Max Low. Teitl Sialens Ddarllen yr Haf eleni yw Ras […]

Darllen Mwy
Cookie Settings