Newyddion
Mawrth 16, 2021
Llyfrgelloedd Cymru yn Estyn Allan i’r Byd Rhithiol
Bydd gan staff llyfrgell ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru fynediad at becyn hyfforddiant digidol cyffrous, diolch i grant gan Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru. Mae’r flwyddyn diwethaf wedi gweld newid enfawr yn y ffordd mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymreu wedi gallu cynnig eu gwasanaethau yn ystod pandemig Coronofeirws. Gyda chyfyngiadau sy’n golygu na all […]
Darllen MwyMawrth 9, 2021
Prosiect Torfoli y Drenewydd yn Galw am Wirfoddolwyr
Casgliad Ffotograffiaeth David Pugh Ydych chi’n hoff o edrych ar hen ffotograffau? Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes y Drenewydd a’i phobl? Mae Casgliad y Werin Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar-lein i gyfoethogi casgliad ffotograffig David Pugh (1942–2017) o’r Drenewydd. © Grŵp Hanes Lleol y Drenewydd Roedd David Pugh yn un o groniclwyr mwyaf […]
Darllen MwyMawrth 3, 2021
Rhannu Stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pobl ar hyd a lled Cymru i rannu stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021 ar ddydd Iau 4 Mawrth. Gallai rhannu stori gynnwys darllen gartref gyda’r teulu, darllen gyda ffrind dros y we, darllen yn eich hoff le, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gydag anifail anwes a […]
Darllen MwyChwefror 5, 2021
Cael Hwyl yn Dathlu Rhigymau a Chaneuon yn Amser Rhigwm Mawr Cymru!
Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru yn digwydd o ddydd Llun 8fed tan ddydd Gwener 12eg Chwefror 2021! Eleni, mae BookTrust Cymru eisiau gwneud Amser Rhigwm Mawr Cymru yn well fyth trwy wahodd plant yn y Cyfnod Sylfaen i chwarae rhan yn yr hwyl rhigymu hefyd! Os ydych chi’n gweithio gyda phlant rhwng 0 a 7 oed, […]
Darllen MwyRhagfyr 17, 2020
Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach […]
Darllen MwyHydref 20, 2020
Llyfrgelloedd yn Cefnogi eu Cymunedau mewn Amserau Heriol
Roedd llyfrgelloedd ymhlith y cyntaf i ddechrau darparu gwasanaeth i’w cymunedau yn dilyn addasiad i’r rheoliadau gan alluogi awdurdodau lleol i ddechrau’r broses o gynllunio sut i ailagor eu llyfrgelloedd yn ddiogel ym mis Mai. Dechreuodd y dull gweithredu fesul cam drwy gynnig gwasanaeth benthyciadau ‘clicio a chasglu’. Er mwyn cefnogi’r costau ychwanegol a gronnwyd […]
Darllen MwyHydref 13, 2020
Troi Dalen Newydd i Gefnogi Iechyd Meddwl Plant
Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen. Mae’r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a’i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth […]
Darllen MwyHydref 8, 2020
#DymaFySilff – Wythnos Llyfrgelloedd yn Dathlu Llyfrau a Darllen
Bydd Wythnos Llyfrgelloedd 2020 yn cael ei chynnal rhwng 5-10 Hydref, ac yn dathlu llyfrgelloedd poblogaidd y genedl a’u rôl hanfodol yn niwylliant llyfrau y DU. Bydd yn siawns i lyfrgelloedd ymhob sector gael dathlu llyfrau a darllen, ac i arddangos eu cynnig darllen a’u cyfraniad i ddatblygu Cenedl o Ddarllenwyr. Dywedodd Eloise Williams, Children’s Laureate […]
Darllen MwyHydref 5, 2020
Adnoddau Iechyd a Lles yn Cefnogi Defnyddwyr
Dros y chwe wythnos diwethaf, mae Llyfrgelloedd Cymru ar y cyd â Borrowbox, y cyflenwr e-lyfrau ac e-lyfrau llafar Cymru-gyfan, wedi cyflwyno cyfoeth o awgrymiadau darllen Iechyd a Lles ichi, sydd ar gael drwy wasanaeth Borrowbox eich llyfrgell. Darparwyd yr adnoddau hyn diolch i nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi defnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus […]
Darllen Mwy