Newyddion

Hydref 3, 2022

Wythnos Llyfrgelloedd 2022 yn Ysbrydoli Dysgu i Bawb

Eleni, bydd Wythnos Llyfrgelloedd (3-9 Hydref) yn dathlu llyfrgelloedd hoff y genedl a’r rôl ganolog y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae wrth gefnogi dysgu gydol oes. Mae’n gyfle i arddangos sut mae llyfrgelloedd ar draws pob sector yn ysbrydoli dysgu i bawb ac yn helpu unigolion i ddatgloi a chyflawni eu potensial ym mhob cyfnod […]

Darllen Mwy

Awst 12, 2022

Llyfrgelloedd Cymru ar y blaen yn ystod Haf o Hwyl

  Mae llyfrgelloedd yn parhau i synnu teuluoedd sy’n cerdded drwy eu drysau, a dyw’r haf eleni ddim yn eithriad.  Meddyliwch am ddawnsio, opera, gwylio’r lleuad, teithio i’r gofod, codio, iaith arwyddion a theithiau trên. A chreadigaethau hufen iâ a siocled, bywyd gwyllt, chwilota ar y traeth, gwneud mapiau… y cyfan rhwng y silffoedd llyfrau. […]

Darllen Mwy

Awst 4, 2022

Mae StoryTrails yn dod i Abertawe a Chasnewydd!

Mae StoryTrails yn brofiad storïol ymdrwythol unigryw sy’n cael ei gynnal mewn llyfrgelloedd ar draws y DU yr Haf yma. Mae’r prosiect yn un o ddeg prosiect sydd wedi’u comisiynu fel rhan o UNBOXED: Creativity in the UK. Mae StoryTrails yn dod â straeon newydd yn fyw gan ddefnyddio realiti estynedig a rhithwir yn ogystal […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 9, 2022

Ymunwch â’r Teclynwyr ar gyfer Her Ddarllen yr Haf

  Y penwythnos hwn bydd Her Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio yng Nghymru, menter boblogaidd iawn i gadw plant i ddarllen dros wyliau’r haf. Gall plant 4 i 11 oed ymweld â’u llyfrgell leol i gwrdd â’r Teclynwyr ac i gymryd rhan mewn Her Ddarllen yr Haf ar thema gwyddoniaeth ac arloesi.  Drwy […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 6, 2022

Dyluniad Newydd i’r Llyfrgell yng Nghanolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn Plesio’r Benthycwyr Iau

Fel y dref ei hun, mae Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael llawer o newidiadau ers iddi agor am y tro cyntaf yn 1901 ar lawr gwaelod Neuadd y Dref ar y pryd. Yn 1908 agorodd Llyfrgell Gyhoeddus Carnegie yn Wyndham Street ac o 1925 i 1968 bu hefyd yn gwasanaethu fel pencadlys Llyfrgell Sir […]

Darllen Mwy

Mehefin 9, 2022

Llyfrgell a Hwb Lles y Fflint yn cynnig Clust i Wrando

  Cafodd Llyfrgell y Fflint ei hadnewyddu’n sylweddol yn Hydref 2019 a’i hailagor yn gynnar yn 2020. Ariannwyd y prosiect drwy Raglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru gydag arian cyfatebol gan Aura Leisure a Llyfrgelloedd a phartneriaid Cyngor Sir y Fflint. Cafodd y llyfrgell ei hailddylunio’n llwyr drwyddi draw i ganiatáu lle hyblyg agored modern […]

Darllen Mwy

Mai 19, 2022

Dros £750,000 ar gyfer llyfrgelloedd ac amgueddfeydd yng Nghymru

Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi ymweld ag Amgueddfa Caerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd i gyhoeddi cyllid gwerth ychydig dros £750,000 i helpu llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleol i ddatblygu eu cyfleusterau a’u gwasanaethau. Bydd y cyllid, a fydd yn cael ei ddarparu fel rhan o’r Cynllun Grant Cyfalaf Trawsnewid, yn helpu […]

Darllen Mwy

Ebrill 27, 2022

Byddwch yn Greadigol yn Ardal Makerspace Llyfrgell Llanelli

Llyfrgell Llanelli yw un o’r llyfrgelloedd mwyaf yn Sir Gaerfyrddin, a ddisgrifir fel un arloesol, bywiog a  chroesawgar, ac mae llawer o bethau ar gael o fewn muriau’r adeilad hanesyddol hwn o’r 1850au. Wrth i chi gamu drwy ddrysau’r ffasâd Fictoraidd peidiwch â chael eich twyllo wrth i chi fynd i mewn i adeilad llyfrgell […]

Darllen Mwy

Ebrill 4, 2022

Llyfrgell Pwllheli yn Ailagor yn Dilyn Gwaith Adnewyddu Neuadd Dwyfor

Mae Llyfrgell Pwllheli wedi ail-agor yn ddiweddar yn dilyn buddsoddiad sylweddol o dros £900,000 er mwyn uwchraddio’r llyfrgell, yn ogystal â chyfleusterau theatr a sinema yn adeilad Neuadd Dwyfor yn y dref. Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, mae dodrefn a silffoedd newydd sbon wedi’u gosod gan gynnwys ardal benodedig atyniadol i blant fydd yn cynnal […]

Darllen Mwy
Cookie Settings