Hydref 4, 2021
Gweithredu a Newid Bywydau ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd 2021
Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddathliad wythnos gron o lyfrgelloedd poblogaidd y genedl, gyda’r ffocws yn 2021 ar gefnogi cymunedau gweithgar ac ymgysylltiedig a’r rôl ganolog y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yn eu cymuned fel sbardun ar gyfer cynhwysiant, cynaliadwyedd, symudedd cymdeithasol a chydlyniant cymunedol. Drwy gydol yr wythnos bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithredu […]
Darllen MwyHydref 3, 2021
Cyfleuster Llyfrgell Newydd y Fenni yng Nghanol y Gymuned
Yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn, mae’r Fenni bellach yn elwa o gyfleuster Llyfrgell newydd sbon, sydd wedi’i leoli o fewn Neuadd y Dref restredig Graddfa II ar ei newydd wedd yng nghanol y dref farchnad brysur hon. Agorodd y llyfrgell newydd ei drysau ym mis Medi, ac mae wedi cael croeso cynnes gan aelodau […]
Darllen MwyMedi 22, 2021
Llyfrgell Llanrwst yn Ailagor yng Nglasdir
Ydych chi’n barod ar gyfer eich antur ddiwylliannol nesaf? Yr wythnos hon, fe ailagorodd Llyfrgell Llanrwst yng Nghlasdir – gofod mawr, cyfeillgar i ddarllenwyr, gyda llyfrgell flaenllaw i blant wedi’i dylunio gan Opening the Book, arweinwyr byd-eang ym maes dylunio llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae gan y llyfrgell amrywiaeth eang o lyfrau at ddant pawb, gyda hwb […]
Darllen MwyGorffennaf 12, 2021
Ewch yn Ferw Gwyllt dros Ddarllen yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021!
Ewch yn ferw gwyllt dros ddarllen gydag Arwyr y Byd Gwyllt yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021 – ar-lein neu yn eich llyfrgell leol! Lansiwyd Sialens Ddarllen yr Haf mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr ar 10 Gorffennaf 2021 (fe’i lansiwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 19 Mehefin) Y thema yw ‘Arwyr y […]
Darllen MwyMehefin 23, 2021
£1.1 miliwn ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd yng Nghymru
Bydd wyth amgueddfa a llyfrgell yn elwa o gyllid o £1.1 miliwn drwy Grantiau Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw cefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i adfywio cyfleusterau gan ganolbwyntio’n benodol ar ehangu mynediad, gweithio mewn partneriaeth a datblygu gwasanaethau cynaliadwy. Bydd pum llyfrgell yn cael eu moderneiddio gyda’r cyllid yn mynd […]
Darllen MwyEbrill 8, 2021
Gwasanaeth eGylchgronau RB Digital yn Symud i Overdrive
Mae’r gwasanaeth eGylchgronau RB Digital nawr wedi symud draw i Overdrive. Mae dros 3,000 o gylchgronau poblogaidd bellach ar gael i’w lawrlwytho a’u darllen ar unrhyw ddyfais 24 /7 . Bydd defnyddwyr gyda cherdyn llyfrgell yn gallu darllen cylchgronau digidol ar Libby , yr ap darllen o Overdrive, neu drwy ymweld â gwefan eu hawdurdod llyfrgell . Ymhlith y prif deitlau mae The Economist, National Geographic a Vanity Fair a channoedd o gylchgronau poblogaidd […]
Darllen MwyMawrth 16, 2021
Llyfrgelloedd Cymru yn Estyn Allan i’r Byd Rhithiol
Bydd gan staff llyfrgell ar draws holl Awdurdodau Lleol Cymru fynediad at becyn hyfforddiant digidol cyffrous, diolch i grant gan Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru. Mae’r flwyddyn diwethaf wedi gweld newid enfawr yn y ffordd mae llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymreu wedi gallu cynnig eu gwasanaethau yn ystod pandemig Coronofeirws. Gyda chyfyngiadau sy’n golygu na all […]
Darllen MwyMawrth 9, 2021
Prosiect Torfoli y Drenewydd yn Galw am Wirfoddolwyr
Casgliad Ffotograffiaeth David Pugh Ydych chi’n hoff o edrych ar hen ffotograffau? Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes y Drenewydd a’i phobl? Mae Casgliad y Werin Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar-lein i gyfoethogi casgliad ffotograffig David Pugh (1942–2017) o’r Drenewydd. © Grŵp Hanes Lleol y Drenewydd Roedd David Pugh yn un o groniclwyr mwyaf […]
Darllen MwyMawrth 3, 2021
Rhannu Stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pobl ar hyd a lled Cymru i rannu stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021 ar ddydd Iau 4 Mawrth. Gallai rhannu stori gynnwys darllen gartref gyda’r teulu, darllen gyda ffrind dros y we, darllen yn eich hoff le, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gydag anifail anwes a […]
Darllen Mwy