Newyddion
Hydref 14, 2015
Cwestiwn: Pa mor bell all tystysgrif Sialens Ddarllen yr Haf deithio?
Ateb: Awstralia maen rhaid bod hynnyn record! Ymunodd Nate Johnson, 10 oed â Sialens Ddarllen yr Haf yn llyfrgell Conwy, tra oedd yn aros gydai Nain ai Daid am dair wythnos yn ystod gwyliaur haf. Mae Nate yn ddarllenwr brwd ac fe logiodd ar gatalog y llyfrgell cyn cyrraedd y wlad er mwyn archebu […]
Darllen MwyMedi 18, 2015
Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth Storïau Rygbi yn agoriad arddangosfa rygbi newydd
Gyda chystadleuaeth rygbi fwyar byd ar ddechrau, gall cefnogwyr syn ymweld â Chaerdydd dros yr hydref fwynhau arddangosfa arbennig wrth i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddathlu Cwpan Rygbir Byd. Heddiw (16 Medi 2015) lansiwyd arddangosfa Cofroddion ar Bêl Hirgron yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a chyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth ysgrifennu creadigol genedlaethol i […]
Darllen MwyMedi 4, 2015
Cynlluniau ar gyfer cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan i wella gwasanaethau ac arbed arian
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i gyhoeddi cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan er mwyn i bobl gael defnyddio gwasanaethau llyfrgell ym mhob rhan or wlad a sicrhau arbedion o 70% i awdurdodau lleol ar eu gwariant. Gydag un cerdyn llyfrgell, bydd pobl yn gallu cael benthyg llyfr o un llyfrgell unrhyw le yn y […]
Darllen MwyMedi 3, 2015
Llyfrgell Blaenafon yn ail-agor mewn cartref newydd
Mae llyfrgell Blaenafon wedi agor yn ei chartref newydd yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon. Yr oriau agor fydd 10am 5pm, Dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, gyda mynediad hunan-wasanaeth i ddewis yn gyflym a llyfrau hanes lleol ar ddydd Sul. Bydd cwsmeriaid hefyd yn medru defnyddio nifer o wasanaethaur cyngor, gan gynnwys y ganolfan […]
Darllen MwyMedi 2, 2015
Llyfrgell Symudol Pen-y-bont Ydych chin ymwybodol or holl bethau y mae eich llyfrgell symudol yn eu cynnig?
Yn ogystal â bod yn lle i ddewis llyfr newydd grêt, erbyn hyn fe all pobl leol fanteisio ar wasanaeth Llyfrgell Symudol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont i gael cyngor am ddefnyddio cyfrifiadur a chwblhau pethau ar lein. Gyda chyfarpar digidol newydd, fe all pobl ddefnyddior rhyngrwyd ar y Llyfrgelloedd Symudol i ateb unrhyw ymholiadau sydd […]
Darllen MwyAwst 11, 2015
Chwilio am rywbeth AM DDIM ir plant ei wneud yr haf yma?
Mae llyfrgelloedd yn cynnal Sialens Ddarllen yr Haf ac mae dros 23,000 o blant yng Nghymru eisoes wedi cofrestru! Ewch draw ich llyfrgell, benthyciwch lyfrau a chasglwch sticeri, gwobrau ac os ewch chi 3 gwaith a darllen o leiaf chwe llyfr fe fydd eich plentyn yn derbyn tystysgrif a medal. Mae The Reading Agency […]
Darllen MwyAwst 10, 2015
Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd!
Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd! Mae Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd ymlaen rhwng 5 a 11 Awst. Beth am ddathlu trwy fynd ati i arddio a phlannu planhigion? Mae yna ddigonedd o lyfrau yn y llyfrgell ich ysbrydoli, o lyfrau am sut i dyfu llysiau rhyfedd a thrawiadol i sut i wneud eich gardd/rhandir mor lliwgar ac mor atyniadol â […]
Darllen MwyAwst 4, 2015
Llyfrgell Coedpoeth!
Cafwyd prynhawn hwyliog o grefftau ar thema glan y môr yn Llyfrgell Coedpoeth ar ddydd Mawrth 4ydd Awst. Daeth llawer o blant lleol draw a chymryd rhan!
Darllen MwyGorffennaf 22, 2015
Dros 500 o geisiadau yn dod i law yng nghystadleuaeth Storïau Rygbi
Mae llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu rygbi yng Nghymru fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbir Byd sydd ar y ffordd. Fe gaeodd y gystadleuaeth ddydd Llun a chafwyd dros 500 o geisiadau oddi wrth blant a phobl ifanc rhwng 7 ac […]
Darllen Mwy