Ionawr 17, 2023

Sioned Erin Hughes

  Graddiodd Sioned Erin mewn Cymdeithaseg a Chymraeg o Brifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Yr Athro Gerwyn Wiliams. Dechreuodd ysgrifennu’n greadigol o ddifri yn 2017, pan aeth yn wael eto gyda chyflwr niwrogyhyrol. Defnyddiodd ysgrifennu fel dull ymdopi pan ddaeth ei bywyd, fel yr oedd hi’n ei adnabod, […]

Darllen Mwy

Rhagfyr 1, 2022

Ffion Enlli

  Cafodd Ffion Enlli ei magu yn Aberdaron ym mhen draw Llŷn. Bu’n byw, astudio a gweithio ym Mharis, Perpignan, Surrey a Llundain. Er bod darn o’i chalon yn dal dros y dŵr yn Ffrainc, hap a damwain a phandemig ddaeth â hi’n ôl i fro ei mebyd yn llawer cynt nag oedd hi wedi […]

Darllen Mwy

Tachwedd 3, 2022

Sian Llywelyn

  Magwyd Siân Llywelyn ym Mhenrhyndeudraeth. Astudiodd am radd ar y cyd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth, ac aeth ymlaen i ddilyn M.A mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu’n athrawes am 15 mlynedd. Mae wedi profi llwyddiant mewn cystadlaethau ysgrifennu amrywiol yn Eisteddfodau Powys a Môn, a phan nad yw’n sgwennu mae’n treulio’i hamser hamdden yn cerdded, meddwi […]

Darllen Mwy

Hydref 5, 2022

Gareth Evans

Daw Gareth Evans o Benparcau, Aberystwyth, ond mae wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer bellach wedi degawd dramor yn Sbaen a’r Almaen. Cychwynnodd ei yrfa gyda Radio Cymru, cyn troi at ysgrifennu ar gyfer y teledu. Mae ganddo brofiad helaeth fel sgriptiwr a storïwr, yn bennaf ar gyfer Pobol y Cwm. Roedd ei nofel […]

Darllen Mwy

Medi 9, 2022

Wyn Mason

Mae Wyn Mason yn byw yng Nghaerdydd, ond daw yn wreiddiol o Lanfarian, ger Aberystwyth. Tan yn ddiweddar roedd e’n uwch ddarlithydd drama ym Mhrifysgol De Cymru, ond erbyn hyn mae’n awdur llawn amser. Mae’n ysgrifennu dramâu llwyfan a radio yn bennaf, ac yn cyd-redeg y cwmni theatr Os Nad Nawr. Y nofel graffig Gwlad […]

Darllen Mwy

Awst 2, 2022

Geraint Evans

  Mae Geraint Evans yn byw yn Nhal-y-bont, Ceredigion. Bu’n ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac am gyfnod yn Warden ar Neuadd Breswyl Pantycelyn. Hergest yw ei nofel ddiweddaraf, wedi ei chyhoeddi gan Y Lolfa. Mae’n debyg nad yw’r nofel yn deillio o brofiad personol! Pan mae Dr Rodrigo Lewis o Batagonia yn cyrraedd […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 13, 2022

Rebecca Thomas

  Daw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhrifysgolion Caer-grawnt a Bangor, mae bellach yn ymchwilydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Dan Gysgod y Frenhines yw ei nofel gyntaf. Dywed Rebecca, “Braf iawn yw cael cyhoeddi […]

Darllen Mwy

Mehefin 6, 2022

Rhian Cadwaladr

  A hithau newydd ddathlu ei phenblwydd yn 60, mae Rhian Cadwaladr wedi cyhoeddi tair nofel: Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd a Plethu. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf i blant, Nain Nain Nain, yn 2019 ac ers hynny mae wedi bod yn cydweithio â’i merch ar gyfres o lyfrau Ynyr yr Ysbryd i […]

Darllen Mwy

Mai 11, 2022

Meleri Wyn James

Cafodd Meleri Wyn James ei magu yn Beulah ac Aber-porth. Fe raddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Aberystwyth ac astudiodd MA yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Mae’n mwynhau darllen, coginio, brodwaith a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Nofel ddirgelwch gyffrous i’r arddegau […]

Darllen Mwy
Cookie Settings