Mehefin 7, 2021

Elidir Jones

Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a Cynefin. Ers 2004, mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw, ac erbyn hyn mae’n byw ym Mhontypridd gyda’i wraig a’i gi mewn tŷ llawn […]

Darllen Mwy

Mai 4, 2021

Manon Steffan Ros

Mae Manon Steffan Ros yn awdures doreithiog, yn gantores, yn ddramodydd ac yn cyhoeddi colofn wythnosol yn Golwg. Enillodd Wobr Tir na n-Og 2019 am ei nofel i’r arddegau sef Fi a Joe Allen, yn ogystal â Pluen yn 2017, Trwy’r Tonnau yn 2010, Prism yn 2012, a Pobl Drws Nesa yn 2020. Mae hefyd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn […]

Darllen Mwy

Ebrill 8, 2021

Sioned Wyn Roberts

Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae’n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am Cyw a Stwnsh. Cyn hynny, bu’n cynhyrchu ac uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda’r BBC. Dewiswyd Sioned fel un […]

Darllen Mwy

Mawrth 2, 2021

Martin Davis

Ganed Martin yn Llanrwst a’i fagu yn Stratford-upon-Avon. Astudiodd yr Wyddeleg a Hanes Cymru yn Aberystwyth ac ers 35 o flynyddoedd mae’n byw gyda’i wraig Siân yn Nhre Taliesin yng ngogledd Ceredigion ac yn gyfieithydd llawrydd. Mae wedi ysgrifennu pump o nofelau i oedolion yn cynnwys ‘Tonnau Tryweryn’ a ‘Broc Rhyfel’, ynghyd â llyfrau i blant, straeon […]

Darllen Mwy

Chwefror 2, 2021

Meilyr Siôn

Mae Meilyr Siôn yn awdur, cyflwynydd ac yn actor llawrydd sydd wedi ysgrifennu sawl nofel i blant, gan gynnwys  Hufen Afiach a gyhoeddwyd gan Atebol yn 2019. Mae eisoes wedi  cyfrannu at raglen  ‘Tic Toc’  ar BBC Radio Cymru ac wedi trosleisio cartwnau plant ar S4C. Daw Meilyr Siôn yn wreiddiol o ardal Neuadd-lwyd ger Aberaeon, ond mae […]

Darllen Mwy

Ionawr 5, 2021

Fflur Dafydd

Mae Fflur Dafydd yn awdur, sgriptwraig a cherddor ar ei liwt ei hun. Enillodd ei hail nofel, Atyniad, y Fedal Ryddiaith yn 2006, ac fe gipiodd hefyd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel Y Llyfrgell yn 2009, y troswyd hi’n ffilm yn 2016. Enillodd ei nofel Saesneg, Twenty Thousand Saints, wobr Gŵyl y Gelli am […]

Darllen Mwy

Tachwedd 25, 2020

John Alwyn Griffiths

Mae’r awdur John Alwyn Griffiths yn mynd o nerth i nerth wrth iddo gyhoeddi ei nawfed nofel dditectif mewn naw mlynedd, yn dilyn ei hunangofiant Pleserau’r Plismon.  Yn enedigol o Fangor, bu John yn heddwas drwy ei yrfa gan weithio ledled gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998 o fod yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd […]

Darllen Mwy

Tachwedd 2, 2020

Rebecca Roberts

  Y mis yma, bydd Rebecca Roberts yn cyhoeddi ei nofel newydd i bobl ifanc #Helynt gyda Gwasg Carreg Gwalch. Yn y nofel, rydym yn dilyn bywyd Rachel Ross, goth ifanc o’r Rhyl sydd â thalent am greu trafferth! Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref, a drwy gyfarfod Shane, dyn golygus, […]

Darllen Mwy

Medi 30, 2020

Daniel Davies

Ydych chi wedi dyfalu sut fywyd roedd Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mwyaf Cymru, yn ei fwynhau? Wel, does dim angen i chi wneud hynny mwyach gan fod Daniel Davies, awdur o ardal Aberystwyth sy’n gwirioni ar hanes Cymru, wedi gwneud hynny drostoch chi! Ffug-ddyddiadur Dafydd ap Gwilym yw Ceiliog Dandi, yn dilyn hynt […]

Darllen Mwy
Cookie Settings