Chwefror 2, 2021

Meilyr Siôn

Mae Meilyr Siôn yn awdur, cyflwynydd ac yn actor llawrydd sydd wedi ysgrifennu sawl nofel i blant, gan gynnwys  Hufen Afiach a gyhoeddwyd gan Atebol yn 2019. Mae eisoes wedi  cyfrannu at raglen  ‘Tic Toc’  ar BBC Radio Cymru ac wedi trosleisio cartwnau plant ar S4C. Daw Meilyr Siôn yn wreiddiol o ardal Neuadd-lwyd ger Aberaeon, ond mae […]

Darllen Mwy

Ionawr 5, 2021

Fflur Dafydd

Mae Fflur Dafydd yn awdur, sgriptwraig a cherddor ar ei liwt ei hun. Enillodd ei hail nofel, Atyniad, y Fedal Ryddiaith yn 2006, ac fe gipiodd hefyd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel Y Llyfrgell yn 2009, y troswyd hi’n ffilm yn 2016. Enillodd ei nofel Saesneg, Twenty Thousand Saints, wobr Gŵyl y Gelli am […]

Darllen Mwy

Tachwedd 25, 2020

John Alwyn Griffiths

Mae’r awdur John Alwyn Griffiths yn mynd o nerth i nerth wrth iddo gyhoeddi ei nawfed nofel dditectif mewn naw mlynedd, yn dilyn ei hunangofiant Pleserau’r Plismon.  Yn enedigol o Fangor, bu John yn heddwas drwy ei yrfa gan weithio ledled gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998 o fod yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd […]

Darllen Mwy

Tachwedd 2, 2020

Rebecca Roberts

  Y mis yma, bydd Rebecca Roberts yn cyhoeddi ei nofel newydd i bobl ifanc #Helynt gyda Gwasg Carreg Gwalch. Yn y nofel, rydym yn dilyn bywyd Rachel Ross, goth ifanc o’r Rhyl sydd â thalent am greu trafferth! Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref, a drwy gyfarfod Shane, dyn golygus, […]

Darllen Mwy

Medi 30, 2020

Daniel Davies

Ydych chi wedi dyfalu sut fywyd roedd Dafydd ap Gwilym, un o feirdd mwyaf Cymru, yn ei fwynhau? Wel, does dim angen i chi wneud hynny mwyach gan fod Daniel Davies, awdur o ardal Aberystwyth sy’n gwirioni ar hanes Cymru, wedi gwneud hynny drostoch chi! Ffug-ddyddiadur Dafydd ap Gwilym yw Ceiliog Dandi, yn dilyn hynt […]

Darllen Mwy

Medi 1, 2020

Andrew Green

Magwyd Andrew Green yn Swydd Efrog. Daeth i Gymru yn 1973 i weithio mewn llyfrgelloedd academaidd, a rhwng 1998 a 2013 ef oedd Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar ôl cyfnodau yng Nghaerdydd ac Aberystwyth mae’n byw nawr yn Abertawe. Enillodd ei lyfr Cymru mewn 100 Gwrthrych categori Ffeithiol Greadigol yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2019. Mae Andrew yn blogio […]

Darllen Mwy

Awst 3, 2020

Casia Wiliam

Cyhoeddodd yr awdures a Bardd Plant Cymru (2017-19) Casia Wiliam ei nofel ddiweddaraf i blant Sw Sara Mai ym Mehefin 2020 gan Y Lolfa. Mae’r nofel yn ymdrin â’r themâu o hiliaeth a bwlio, ond mae yna hefyd ddigon o ysgafnder a digrifwch. Cawsom gyfle i drafod y llyfr arbennig hwn efo Casia yn ddiweddar … Beth wnaeth eich […]

Darllen Mwy

Mehefin 17, 2020

Alun Davies

Wedi’i eni a’i fagu yn Aberystwyth, fe adawodd Alun i fynd i’r brifysgol yn Llundain a threulio deng mlynedd yno, cyn dychwelyd i Gymru i fyw yng Nghaerdydd. Erbyn hyn mae’n ddatblygwr meddalwedd ac yn berchennog busnes sy’n treulio llawer o’i amser o flaen ei gyfrifiadur!  Ar Lwybr Dial yw ei ail nofel yn nhrioleg y […]

Darllen Mwy

Ebrill 3, 2020

Myfanwy Alexander

Magwyd Myfanwy Alexander yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched ger Llanfair Caereinion, Powys. Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan. Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi The LL […]

Darllen Mwy
Cookie Settings