Newyddion

Ebrill 24, 2018

Agoriad swyddogol Llyfrgell Y Bala

Yn dilyn gwaith uwchraddio, mae Llyfrgell Y Bala wedi ei agor yn swyddogol i’r cyhoedd ar ei newydd wedd. Mae’r llyfrgell wedi dychwelyd i’w gartref ar safle Ysgol y Berwyn yn y dref yn dilyn cyfnod dros dro yng Nghanolfan Hamdden Penllyn tra roedd y gwelliannau yn cael eu cwblhau. Gyda hynny, bydd y llyfrgell […]

Darllen Mwy

Chwefror 20, 2018

Gweinidog yn ail-agor Llyfrgell Tref-y-clawdd

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas AC wedi ail-agor y llyfrgell gyhoeddus o fewn canolfan gymuned Tref-y-clawdd a’r Fro dydd Iau 15 Chwefror 2018. Ers mis Rhagfyr y llynedd, mae’r ganolfan wedi bod yn gartref i’r llyfrgell ac yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng y pwyllgor rheoli a’r llyfrgell. Gwireddwyd y cynllun trwy gynllun  […]

Darllen Mwy

Rhagfyr 21, 2017

Sialens Ddarllen yr Haf 2017: canlyniadau Anifail-Ysbiwyr

Sialens Ddarllen yr Haf 2017: The Reading Agency a llyfrgelloedd yn cyhoeddi cynnydd yn nifer y rhai a gymerodd ran yn y sialens Anifail-Ysbiwyr, ac mai’r Beano fydd thema 2018: Cymerodd 761,758 o blant ran yn y sialens Anifail-Ysbiwyr ar lefel y DU, ac roedd hynny’n gynnydd o 6,550 ar gyfanswm 2016 Mae’r cyfanswm hwn […]

Darllen Mwy

Tachwedd 27, 2017

Llyfrgell newydd i Gampws Tycoch

Mae myfyrwyr a staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi dathlu ailagoriad swyddogol llyfrgell campws Tycoch (16 Tachwedd 2017). Mae’r lle dysgu arloesol, a agorwyd gan yr awdur plant a chyflwynydd BBC Cymru, Lucy Owen, yn cynnwys lle cydweithredu, stiwdio technoleg gwybodaeth dysgu, bwth acwstig a lleoedd astudio unigol / mewn grwpiau. Yn ogystal â chynnwys […]

Darllen Mwy

Hydref 18, 2017

Wythnos Llyfrgelloedd yn llwyddiant mawr

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru wedi dathlu Wythnos Llyfrgelloedd drwy annog pobl i ymweld â llyfrgelloedd a ‘darganfod rhywbeth newydd’. Ledled y wlad croesawodd llyfrgelloedd awduron a darlunwyr gwadd, cynhaliwyd sesiynau grwpiau darllen, gweithgareddau addysgol a llythrennedd a llawer mwy. Yn ystod yr wythnos cafodd pobl eu hannog i ymweld â‘u llyfrgell leol a darganfod rhywbeth […]

Darllen Mwy

Hydref 9, 2017

Darganfyddwch rhywbeth newydd yn eich Llyfrgell yr hydref hwn

Daw llyfrgelloedd ledled Cymru yn fyw yn ystod mis Hydref gan ddarparu rhywbeth at ddant pawb. O Fôn i Fynwy bydd llyfrgelloedd yn croesawu awduron a darlunwyr gwadd, sesiynau grwpiau darllen, gweithgareddau addysgol a llythrennedd a llawer iawn mwy, y cyfan i’ch denu yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd 9-14 Hydref. Wythnos Llyfrgelloedd yw’r arddangosiad blynyddol o’r […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 24, 2017

Ewch i’ch Lyfrgell Leol yr haf Hwn i Gael Cyfle i Ddatrys Dirgelwch!

Mae’r Anifail-Ysbiwyr wedi cyrraedd! Anifail-Ysbiwyr – llu o greaduriaid clyfar sy’n barod i ddatrys pob math o droseddau! Mae’r criw hwn o ffrindiau blewog, llithrig a phluog wedi eu hyfforddi’n arbennig i ddefnyddio’u sgiliau a’u greddf naturiol i ddatrys dirgelion – gyda dogn enfawr o hwyl ar hyd y ffordd. Gadewch i’ch plant ddefnyddio’u dychymyg […]

Darllen Mwy

Gorffennaf 4, 2017

£2.7m i lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yng Nghymru

Bydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yng Nghymru yn manteisio ar dros £2.7 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau, meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi yn fis Mai. Mae’r Gronfa Drawsnewid newydd yn adeiladu ar lwyddiant y Rhaglen Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol ar gyfer llyfrgelloedd, gan ei hymestyn i amgueddfeydd ac archifau […]

Darllen Mwy

Chwefror 2, 2016

Mae Scorch yn cuddio yn eich llyfrgell leol!

Bydd cystadleuaeth ar gyfer plant 12 mlwydd oed ac iau yn cael ei chynnal mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a bydd cyfle i ennill gwobrau ffantastig Undeb Rygbi Cymru! Mae’r gystadleuaeth yn ceisio annog plant i ddarganfod beth sydd ar gael i’w ddarganfod yn eu llyfrgell leol ac fe’i chynhelir mewn llyfrgelloedd ledled Cymru rhwng 7 […]

Darllen Mwy
Cookie Settings